Bydd cynlluniau grant ardrethi annomestig (NDR) Covid-19 yn cau i geisiadau newydd am 5pm ar 30 Mehefin 2020.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i roi grantiau i fusnesau cymwys:
- Grant o £ 25,000 ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sy’n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £ 12,001 a £ 51,000
- Grant o £ 10,000 i bob busnes sy’n gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach (SBRR) yng Nghymru gyda gwerth ardrethol o £ 12,000 neu lai
- Grant o £ 10,000 i’r holl drethdalwyr sy’n gymwys i gael rhyddhad elusennol a rhyddhad Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASC), sy’n gweithredu yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch sy’n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol o £ 12,000 neu lai
Mae’r cyfyngiad eiddo lluosog a gymhwysir i’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach yn berthnasol i’r grant hwn. Dim ond am uchafswm o ddau eiddo ym mhob awdurdod lleol y caiff yr un trethdalwr dderbyn y grant.
Mae’r cyfyngiad eiddo lluosog hwn hefyd yn berthnasol i elusennau a CASC.
Mae Cam 2 y Gronfa Cadernid Economaidd (ERF) bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. am fwy o wybodaeth am yr hyn y gall busnesau cymwys hawlio a sut, ewch i:
https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy/cymorth/cymorth-ariannol-grantiau
Sylwch mai’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 Gorffennaf 2020.
Leave A Comment