Ysgrifennir 22 Ebrill 2020
LLYWODRAETH Y DU YN DARPARU £95M YCHWANEGOL I RHEOLI CORONAVIRUS YNG NGHYMRU
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £95m arall i gefnogi’r weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru i fynd i’r afael â coronafirws, mae’r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi.
O ganlyniad i hwb cyllid Llywodraeth y DU i gynghorau ledled Lloegr a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Robert Jenrick, bydd y weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru yn derbyn £95 miliwn yn ychwanegol. Mae hyn yn cymryd y cyfanswm a roddwyd gan Lywodraeth y DU i gefnogi’r ymdrech yng Nghymru i bron i £2 biliwn, gan helpu Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth hanfodol i’r rhai sydd ei angen fwyaf yn ystod yr argyfwng hwn.
Mae Byddin y DU yn darparu sgiliau arbenigol ychwanegol i Lywodraeth Cymru a’r GIG tra bod gan fusnesau yng Nghymru fynediad at fenthyciadau a gefnogir gan Lywodraeth y DU a’r Cynllun Cadw Swyddi gwerth £330 biliwn.
Leave A Comment